Mae’n bleser gennym groesawu Spill The Beans Coffee i Farchnad y Frenhines – lle perffaith i gymryd seibiant, ymlacio a mwynhau paned hyfryd o goffi. Fe gewch chi goffi wedi’i wneud yn gelfydd, te crand a diodydd poeth moethus ynghyd â detholiad o deisennau a chacennau i’ch temtio. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’ch sbarduno yn y bore neu’n cael hoe fach yn y p’nawn, fe wnaiff Spill The Beans ofalu amdanoch chi.

More Information

oPENING hOURS

Beth sy’n gwneud Spill The Beans Coffee yn arbennig? Ansawdd a gofal. Rydyn ni’n gweini coffi ffres wedi’i wneud yn union sut rydych chi’n ei hoffi, dewis o de artisan, a diodydd poeth moethus eraill – y cydymaith delfrydol i un o’n cacennau neu deisennau blasus. Cysur siop goffi, yng nghanol y Rhyl.
Yn Spill The Beans Coffee, rydyn ni’n gweini coffi wedi’i falu’n ffres, sy’n llyfn, yn gyfoethog, ac wedi’i wneud yn arbennig i chi, ochr yn ochr â dewis o de artisan a diodydd poeth moethus eraill. Parwch eich diod gydag un o’n teisennau ffres neu hoff gacennau ar gyfer y trît perffaith. P’un a ydych chi’n galw heibio am egwyl fach, neu’n aros am sgwrs, Spill The Beans yw’r lle coffi newydd i chi ym Marchnad y Frenhines, y Rhyl.