Neuadd Fwyd

Y Neuadd Fwyd

Lle mae bwyd stryd, cymuned a blas yn dod ynghyd

Mae Neuadd Fwyd Marchnad y Frenhines yn lle bywiog, croesawgar sy’n llawn bwyd stryd beiddgar, coffi ffres a danteithion melys – perffaith i unrhyw un sydd awydd cinio sydyn, cyfarfod â ffrindiau, neu damaid cyn digwyddiad mawr. Gyda lle i dros 100 eistedd, Wi-Fi cyflym am ddim a digonedd o le i ymlacio neu weithio, fe fyddwch chi eisiau dod ’nôl yma dro ar ôl tro.

Rydyn ni wedi dod â detholiad o werthwyr bwyd o safon at ei gilydd, sy’n gweini popeth o fwyd stryd o bob cwr o’r byd i’r clasuron llawn cysur. Boed chwant bao, byrgyrs, pitsa go iawn neu rywbeth melys arnoch chi, mae rhywbeth yma i bawb.

Lle a seddi

Digonedd o le i ymlacio, bwyta a mwynhau

Mae ein wal o gwrw casgen yn cynnig cyfuniad o’r ffefrynnau cyfarwydd ac amrywiaeth newydd sy’n newid o hyd. Ar gael drwy’r amser mae cwrw euraidd, bywiog Amstel, Cruz Campo melys â blas y brag, seidr sych a ffres Inch’s ac Old Mout Cider yn llawn blas ffrwythau. Ar wahân i’r tapiau hynny, mae gennym ni gasgenni tymhorol neu rai wedi’u bragu ar raddfa fach o bob cwr o Gymru a Phrydain o hyd, felly mae rhywbeth newydd i’w flasu bob tro. Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Holwch y tîm – maen nhw’n fwy na pharod i awgrymu peint sy’n siŵr o gyd-fynd â’ch dewis o fwyd.

Archebu'n Hawdd

Dewislenni wrth eich bysedd

Mae cod QR ar bob bwrdd sy’n rhoi mynediad cyflym i chi at fwydlenni’r holl fasnachwyr mewn un lle. Pori’n hamddenol, dewis beth sy’n mynd â’ch bryd – heb orfod gadael eich sedd.

Mae Wi-Fi cyflym am ddim ar gael ledled y neuadd fwyd, felly p’un a ydych chi’n gwirio sgoriau, rhannu lluniau neu’n ffrydio rhestr chwarae, byddwch chi’n aros yn gysylltiedig heb unrhyw drafferth.

y masnachwyr

Pysgod a sglodion traddodiadol o safon. Popeth yn ffres a blasus
Fish and Chips as Traditional as they come. Fresh and wholesome
Bwyd blasus o’r barbicyw, wedi eu creu’n perffaith.
Mae’r Sandwich Shack yn cynnig brechdannau ffres yn cael eu cynhyrchu’n dyddiol. Mae’r bara a’r cynhwysion yn lleol ac hefyd paninis a chawl ffress pop dydd.
Mae Ivy’s yn cynnig blas traddodiadol o Lundain. Yn nodweddu peis traddodiadol Manzes o Lundain (cyf 1902) a chyfuno gyda selsig lleol, peis oen, tatws a ionod ffres, naturiol, lleol ac hefyd bwyd môr ffres. Beth yw eich dewis, Gwirod neu Grefi?
Mae Golden Meal yn ymdoddi amrywiaith o fwyd o’r Dwyran Canol. Dim ond y nwyddau goreu a fress sydd yn cael eu defnyddio I greu cyris, grils cymysg a nifer o grwstiau I demtio paled pawb.
Teulu arabeg o Syria ydyn ni yn cynnig prydau traddodiadol cartrefol a blasau dilys o’r dwyran canol. Mae’n bwydlen yn cynwys nifer o brydau arabeg, archweithion oer a poeth a phwdinau ffres arabeg. Ansawdd blas a naws teuluol cynes yw’r ffocws.
Ganwyd Bragdy Conwy ym 2003 I greu cwrw heb ei hidlo, heb ei basteureiddio a naturiol. Angerdd I greu cwrw lleol o safon yw’r nod. Mae’n new da wedi’u cryfhau a ehangu’r bragdy ond rydym yn gwir I’n gwreiddiau o fragu efo gofal, angerdd a leiafswm o brosesu. Rydym yn cynig amrywiaeth o gwrw traddodiadol prydeinig, cwrw creadigol tymorol a’n amrywiaeth arfordir gorllewinol sy’n canolbwyntio ar adeiladu perthnasau cryf efo’n cwsmeriad, bodloni’r gofynion ein cwsmeriaid presennol a efailio partneriaethau ym marchnadau newydd.
Mae’n siop melysion yn llawn drinia ar gyfer pawb, yn cynwys ffefrynnau dewis a chymysgu traddodiadol, melysion ‘di berwi, siocled ymbleseru a chyffug hyfennog . Mae gennym rhywbeth ar gyfer pob dant melys.
Calonogol, iachus a boddhaul. Mae’n tatws wedi’u pobi yn dod efo llenwadau blasus, yn perffaith ar gyfer unrhyw adeg o’d diwrnod.
Adenydd, stribedi, sglods di llwythi – mae popeth wedi’u gorchudd. Mae’r bwyd yn ffres, yn lleol ac ar gael 7 diwrnod yr wythnos. Wedi ei creu ym Mhirmingham a’i ardystiedig yn Ogledd Cymru. Angerdd ar flas, cariad tuag at y cymuned.
Mae’n bleser gennym groesawu Spill The Beans Coffee i Farchnad y Frenhines – lle perffaith i gymryd seibiant, ymlacio a mwynhau paned hyfryd o goffi. Fe gewch chi goffi wedi’i wneud yn gelfydd, te crand a diodydd poeth moethus ynghyd â detholiad o deisennau a chacennau i’ch temtio. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’ch sbarduno yn y bore neu’n cael hoe fach yn y p’nawn, fe wnaiff Spill The Beans ofalu amdanoch chi.
Pudz ydi’r lle i fynd ym Marchnad y Frenhines am bwdinau moethus a hen ffefrynnau melys. Mae ganddynt hufen iâ, teisennau, brownis, wafflau a crêpes – rhywbeth at ddant melys pawb. P’un a ydych chi’n bachu rhywbeth bach i chi’ch hun neu’n rhannu â ffrindiau, mae Pudz yn rhoi pleser pur ymhob tamaid.
Mawr, Beiddgar a Blasus Dros Ben – mae Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn falch o groesawu Bad Burgers & Dirty Dogs – sy’n gweini bwyd stryd bendigedig sy’n llawn blas, hwyl a phleser di-lol. Fe gewch chi ddanteithion blasus fel byrgyrs rhacs cartref, cŵn poeth crand a sglodion llwythog dros ben sy’n sicr o lenwi’ch bol. Bwyd cysurus wedi’i wneud yn null arbennig Bad Burgers & Dirty Dogs – ffres, blêr ac yn llawn cymeriad.
Daw Little Italy Pizza â blas o Napoli i ganol y Rhyl gyda pizzas wedi’u paratoi’n gelfydd â llaw. Bellach ar daith ac yn gweini clasuron Eidalaidd, maen nhw’n gwneud pob pizza o ddim cyn ei bobi yn y popty tân coed, gan ddefnyddio’r technegau iawn a chynhwysion o’r radd flaenaf. Gallwch ddisgwyl pizza â gwaelod tenau, saws tomato godidog, mozzarella wedi toddi’n berffaith – pob tamaid yn dyst i’r grefft draddodiadol o wneud pizza.
Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Go Greek yn dod â blas o Fôr y Canoldir i Farchnad y Frenhines yn y Rhyl. Dyma gyflwyno Go Greek – eich hoff le newydd ar gyfer bwyd stryd Groegaidd ffres a blasus dros ben. Rhwng gyros chwilboeth a phwdinau melys, moethus, rydym yma i ddod â gwir ysbryd bwyd Groegaidd i ganol gogledd Cymru.
Dyma gyflwyno DONAT DWT – eich hoff le newydd ar gyfer toesenni wedi’u gwneud â llaw sydd yr un mor feiddgar ag y maent yn hardd. Mae DONAT DWT yn dod â direidi a danteithion melys anghyffredin i Farchnad y Frenhines – toesenni trawiadol, mentrus a blasus tu hwnt.