Wrth galon Marchnad y Frenhines mae’r Venue – ein lle pwrpasol ar gyfer digwyddiadau lle mae sain, golau ac awyrgylch yn plethu ynghyd. Wedi’i dylunio ar gyfer torfeydd ar eu traed neu sioeau gyda seddi, mae wedi’i hadeiladu i gynnig lle i bopeth o gerddoriaeth a chomedi byw i grwpiau cymunedol, nosweithiau ar thema a digwyddiadau arbennig. Boed ’na brif act enwog neu dalent leol newydd, mae pob digwyddiad yma’n creu teimlad o agosrwydd cyffrous.
Gyda lle i hyd at 800 yn sefyll a 250 ar eu heistedd, llwyfan gyda’r cyfarpar i gyd a’r systemau golau a sain gorau, mae’n lle hyblyg sy’n addasu i’r naws – cartrefol pan mae angen a phwerus pan mae’n cyfri’.
O fandiau ‘indie’ a sesiynau acwstig i setiau byw mawr, rydyn ni’n cynnal cyfuniad o artistiaid cyfarwydd a doniau sy’n dod i amlygrwydd. Gallwch ddisgwyl sain gwych, llwyth o egni a chynulleidfa sydd bob amser yn barod amdani.
Mae hwn yn lle am nosweithiau llawn chwerthin a pherfformiadau i brocio’r meddwl. Boed hynny’n set gomedi fachog neu farddoniaeth gignoeth ar lafar, rydych chi bob amser yn agos at y cyffro.
Mae rhai nosweithiau’n achlysuron unigryw ac eraill yn rhai syml, am ddim. Mae gennym ni gyfuniad o bopeth felly mae rhywbeth i bawb o hyd, boed rhywun yn cynllunio ymlaen neu ond yn pasio heibio.
Mae systemau golau a sain proffesiynol yn y Venue i wneud yn siŵr bod pob sioe’n taro’r nodyn, beth bynnag fo’r naws.
Does dim rhaid colli eiliad – mae gennym ni ddiodydd ar gael drwy’r cyfan. Mwynhewch ddewis arbennig o gwrw, coctels neu ddiodydd ysgafn wrth wylio’r sioe.
Rydyn ni’n newid y cynllun ar gyfer y naws – boed hynny’n golygu cynulleidfa ar ei heistedd i greu teimlad cartrefol neu’n sefyll a’r llawr ar agor i greu’r cynnwrf mwyaf.
Mae’r systemau sain, goleuo a chlyweledol wedi’u dylunio a’u gosod gan arbenigwr lleol – North Wales Sound & Lighting, i’w defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau cymunedol, digwyddiadau ac adloniant, a hynny i safon dechnegol uchel iawn.
Mae Neuadd y Farchnad yn cynnwys system o seinyddion cerddoriaeth gefndir, sy’n darparu ansawdd sain gwych ar draws y gofod.
Ar y llawr gwaelod mae yna ddau deledu 4k 85 modfedd ac ar falconi’r llawr cyntaf mae yna wyth sgrin 4k 50 modfedd ar gyfer y llefydd eistedd cyfforddus – y lle perffaith i wylio digwyddiadau pwysig, chwaraeon, fideos cerddoriaeth a mathau eraill o adloniant.
Drws nesaf, mae’r Neuadd Ddigwyddiadau yn darparu lle pwrpasol ar gyfer perfformiadau, ffilmiau, adloniant a phob mathau o weithgareddau cymunedol.
Mae yno lwyfan pwrpasol a system sain, goleuo a thaflunio wedi’i gosod yn broffesiynol sy’n cynnwys:
Ar gyfer digwyddiadau mwy mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r ddau ofod gan fod Neuadd y Farchnad a’r Neuadd Ddigwyddiadau yn gydgysylltiedig – gan ganiatáu i ni rannu sain a chynnwys gweledol rhwng y ddwy ardal.