Ardal Awyr Agored

Ardal Awyr Agored

Awyr iach, seddi agored a lle i hamddena

Camwch tu allan ac fe welwch chi un o ardaloedd mwyaf amlddefnydd Marchnad y Frenhines – lle mawr agored ar ddecin sy’n berffaith ar gyfer popeth, o eistedd yn yr haul gyda ffrindiau i amser hamddenol gyda’r teulu. Gyda chyfuniad o seddi dan do ac yn yr awyr agored, mae’n lle da i gael diod neu damaid o’r Neuadd Fwyd a’i fwynhau yn yr awyr iach.

Nid lle i fwyta ac yfed yn unig yw hwn – mae hefyd wedi’i ddylunio gan feddwl am deuluoedd. Mae parc chwarae i blant yno i gadw’r rhai bach yn hapus, ynghyd â lle hwylus i rieni a gofalwyr eistedd ac ymlacio ger llaw. P’run a ydych chi yno am baned a sgwrs, yn cynnal cyfarfod anffurfiol, neu’n gadael i’r plant fwrw stêm, mae’n lle sy’n croesawu pawb.

Ac oes – mae cysylltiad Wi-Fi cyflym, am ddim ar gael yma hefyd, yn union fel gweddill Marchnad y Frenhines.

Ardal Eistedd ar y Decin

Mwynhewch yr awyrgylch, hindda neu law

Mae ein hardal awyr agored fawr ar ddecin yn berffaith ar gyfer bwyta tu allan, pnawn diog gyda diodydd, neu baned a sgwrs gyda ffrindiau a theulu. Gyda chyfuniad o seddi awyr agored a dan loches, mae’n lle cyfforddus i setlo, pa bynnag dymor yw hi.

Ewch i nôl rhywbeth blasus o’r Neuadd Fwyd, cysylltwch â’r Wi-Fi am ddim, a mwynhewch eiliad hamddenol yng nghalon Marchnad y Frenhines – p’run a ydych chi’n galw i mewn yn sydyn neu yma am sbel.

Parc Chwarae Plant

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi agoriad swyddogol y Parc Chwarae Plant newydd sbon ddydd Llun 6ed Hydref yn Marchnad y Frenhines.

Mae’r ychwanegiad cyffrous hwn wedi’i gynllunio gyda theuluoedd mewn golwg, gan greu lle diogel, hwyliog ac ysgogol i blant o bob oed ei fwynhau. Mae’r parc chwarae newydd yn ychwanegu dimensiwn arbennig at Farchnad y Frenhines, gan ei gwneud nid yn unig yn lle i siopa a bwyta, ond hefyd yn gyrchfan i deuluoedd dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd.