Mae’r Sandwich Shack yn cynnig brechdannau ffres yn cael eu cynhyrchu’n dyddiol. Mae’r bara a’r cynhwysion yn lleol ac hefyd paninis a chawl ffress pop dydd.
Mae Ivy’s yn cynnig blas traddodiadol o Lundain. Yn nodweddu peis traddodiadol Manzes o Lundain (cyf 1902) a chyfuno gyda selsig lleol, peis oen, tatws a ionod ffres, naturiol, lleol ac hefyd bwyd môr ffres. Beth yw eich dewis, Gwirod neu Grefi?
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00 - Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Mae Golden Meal yn ymdoddi amrywiaith o fwyd o’r Dwyran Canol. Dim ond y nwyddau goreu a fress sydd yn cael eu defnyddio I greu cyris, grils cymysg a nifer o grwstiau I demtio paled pawb.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Teulu arabeg o Syria ydyn ni yn cynnig prydau traddodiadol cartrefol a blasau dilys o’r dwyran canol. Mae’n bwydlen yn cynwys nifer o brydau arabeg, archweithion oer a poeth a phwdinau ffres arabeg. Ansawdd blas a naws teuluol cynes yw’r ffocws.
Ganwyd Bragdy Conwy ym 2003 I greu cwrw heb ei hidlo, heb ei basteureiddio a naturiol. Angerdd I greu cwrw lleol o safon yw’r nod. Mae’n new da wedi’u cryfhau a ehangu’r bragdy ond rydym yn gwir I’n gwreiddiau o fragu efo gofal, angerdd a leiafswm o brosesu. Rydym yn cynig amrywiaeth o gwrw traddodiadol prydeinig, cwrw creadigol tymorol a’n amrywiaeth arfordir gorllewinol sy’n canolbwyntio ar adeiladu perthnasau cryf efo’n cwsmeriad, bodloni’r gofynion ein cwsmeriaid presennol a efailio partneriaethau ym marchnadau newydd.
Mae’n siop melysion yn llawn drinia ar gyfer pawb, yn cynwys ffefrynnau dewis a chymysgu traddodiadol, melysion ‘di berwi, siocled ymbleseru a chyffug hyfennog . Mae gennym rhywbeth ar gyfer pob dant melys.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00 - Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Adenydd, stribedi, sglods di llwythi – mae popeth wedi’u gorchudd. Mae’r bwyd yn ffres, yn lleol ac ar gael 7 diwrnod yr wythnos. Wedi ei creu ym Mhirmingham a’i ardystiedig yn Ogledd Cymru. Angerdd ar flas, cariad tuag at y cymuned.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Mae’n bleser gennym groesawu Spill The Beans Coffee i Farchnad y Frenhines – lle perffaith i gymryd seibiant, ymlacio a mwynhau paned hyfryd o goffi. Fe gewch chi goffi wedi’i wneud yn gelfydd, te crand a diodydd poeth moethus ynghyd â detholiad o deisennau a chacennau i’ch temtio. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’ch sbarduno yn y bore neu’n cael hoe fach yn y p’nawn, fe wnaiff Spill The Beans ofalu amdanoch chi.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Pudz ydi’r lle i fynd ym Marchnad y Frenhines am bwdinau moethus a hen ffefrynnau melys. Mae ganddynt hufen iâ, teisennau, brownis, wafflau a crêpes – rhywbeth at ddant melys pawb. P’un a ydych chi’n bachu rhywbeth bach i chi’ch hun neu’n rhannu â ffrindiau, mae Pudz yn rhoi pleser pur ymhob tamaid.
Hufen iâ, wafflau, brownis, crêpes a mwy
Fferins siop ysgol a detholiad o siocledi
Perffaith i blant a rhai hŷn sy’n hoff o bethau melys
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Mawr, Beiddgar a Blasus Dros Ben – mae Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn falch o groesawu Bad Burgers & Dirty Dogs – sy’n gweini bwyd stryd bendigedig sy’n llawn blas, hwyl a phleser di-lol. Fe gewch chi ddanteithion blasus fel byrgyrs rhacs cartref, cŵn poeth crand a sglodion llwythog dros ben sy’n sicr o lenwi’ch bol. Bwyd cysurus wedi’i wneud yn null arbennig Bad Burgers & Dirty Dogs – ffres, blêr ac yn llawn cymeriad.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Daw Little Italy Pizza â blas o Napoli i ganol y Rhyl gyda pizzas wedi’u paratoi’n gelfydd â llaw. Bellach ar daith ac yn gweini clasuron Eidalaidd, maen nhw’n gwneud pob pizza o ddim cyn ei bobi yn y popty tân coed, gan ddefnyddio’r technegau iawn a chynhwysion o’r radd flaenaf. Gallwch ddisgwyl pizza â gwaelod tenau, saws tomato godidog, mozzarella wedi toddi’n berffaith – pob tamaid yn dyst i’r grefft draddodiadol o wneud pizza.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Go Greek yn dod â blas o Fôr y Canoldir i Farchnad y Frenhines yn y Rhyl. Dyma gyflwyno Go Greek – eich hoff le newydd ar gyfer bwyd stryd Groegaidd ffres a blasus dros ben. Rhwng gyros chwilboeth a phwdinau melys, moethus, rydym yma i ddod â gwir ysbryd bwyd Groegaidd i ganol gogledd Cymru.
Sul - Mercher - 10:00 - 20:00, Iau - Sadwrn - 10:00 - 22:00
Dyma gyflwyno DONAT DWT – eich hoff le newydd ar gyfer toesenni wedi’u gwneud â llaw sydd yr un mor feiddgar ag y maent yn hardd. Mae DONAT DWT yn dod â direidi a danteithion melys anghyffredin i Farchnad y Frenhines – toesenni trawiadol, mentrus a blasus tu hwnt.